Lleoliad:
Hybrid – Ystafelloedd Pwyllgora 1 a 2 a Chynhadledd Fideo drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 12 Gorffennaf 2023
Amser:
09.30 -
10.27
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13637
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jayne Bryant AS (Cadeirydd) James Evans AS Heledd Fychan AS Laura Anne Jones AS Ken Skates AS Buffy Williams AS |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Tom Lewis-White (Ail Glerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Sian Thomas (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac
Addysg.
1.2 Ni chafwyd dim ymddiheuriadau.
2 Papurau i'w nodi
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn ac o’r cyfarfod cyfan ar 14 Medi
3.1 Derbyniwyd y cynnig.
4 Gwasanaethau i blant sydd â phrofiad o ofal: trafod diwygio radical - trafod ymateb Llywodraeth Cymru
4.1 Trafododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn.
4.2 Cytunodd y Pwyllgor i wahodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Prif Weinidog am sesiwn graffu ar adroddiad y Pwyllgor ac ymateb Llywodraeth Cymru.
5 Sesiwn gynllunio strategol y Pwyllgor
5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar drefniadau ar gyfer y sesiwn ac y byddai'r sesiwn yn cael ei chynnal ar 5 Hydref.